Rhif y ddeiseb: P-06-1350

Teitl y ddeiseb: Ailagor Ward Dyfi yn Ysbyty Tywyn ar unwaith

Geiriad y ddeiseb: Rydym wedi ein llorio gan benderfyniad Betsi Cadwaladr i gau ‘dros dro’ ward cleifion mewnol Ysbyty Tywyn. Rydym am i’r ward gael ei hailagor ar unwaith.

Mae cau'r ward hon heb unrhyw ymgynghori na hysbysiad yn gam bwriadol ac anhryloyw; mae’n gamddefnydd o wasanaeth cyhoeddus ein cymuned.

Cafodd staff a chleifion wybod ar y dydd Iau y bydden nhw'n cael eu symud i ysbyty Dolgellau erbyn y dydd Mawrth dilynol. Dim rhybudd, dim ymgynghori, dim trafod, dim rhesymeg.

Pe na bai staff am symud i Ddolgellau bydden nhw heb swydd. Mae Tywyn yn ysbyty newydd sydd ag offer a chyfleusterau rhagorol. Mae gan ein hysbyty staff gwych yn gweithio ynddo. Mae ein perthnasau a’n ffrindiau wedi cael y gofal gorau posibl y gallai rhywun ddymuno ei gael.

Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud nad yw'n gallu recriwtio digon o staff i lenwi swyddi. Rydym am weld y dystiolaeth sydd gan y bwrdd iechyd sy’n dangos eu bod mewn gwirionedd wedi mynd ati i recriwtio staff ar gyfer ein hysbyty.

Mae'r ysbyty hwn yn adnodd hanfodol yn ein cymuned. 

 


1.        Cefndir

Ar 20 a 21 Ebrill 2023, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIP). erthyglau ar ei wefan yn nodi bod y Bwrdd Iechyd wedi cau Ward Dyfi yn Ysbyty Tywyn dros dro ac wedi cryfhau’r ddarpariaeth o ran gwelyau yn Ysbyty Dolgellau i sicrhau cyflenwad nyrsio mwy cadarn. Dywedir bod y penderfyniad wedi'i wneud i amddiffyn diogelwch y cleifion mewnol hyd nes y gellir cyrraedd lefelau cynaliadwy o staff nyrsio.

Dywedodd swyddog o’r Bwrdd Iechyd a ddyfynnwyd yn yr erthygl:

“Rydym wedi bod yn gweithio'n galed i recriwtio nyrsys newydd o'r ardal gyfagos ac o ymhellach i ffwrdd i weithio yn Ysbyty Tywyn ers peth amser ond bellach wedi dihysbyddu'r holl opsiynau recriwtio.  Er gwaethaf ein hymdrechion gorau, nid ydym wedi llwyddo i recriwtio niferoedd digonol o nyrsys i ddarparu lefelau diogel o staff nyrsio ar draws Ysbytai Tywyn a Dolgellau.

Pwysleisiodd swyddog y Bwrdd Iechyd mai mesur dros dro yw cau'r ward ac y byddai'r trefniadau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd. Aeth y swyddog ymlaen i ddweud bod y Bwrdd Iechyd yn gwneud popeth o fewn ei allu i recriwtio i'r swyddi nyrsio sydd eu hangen i ailagor y ward, a bod y broses yn debygol o gymryd sawl mis.

Dywedwyd bod y Bwrdd Iechyd yn gweithio gyda'i bartneriaid yn yr Undebau Llafur i archwilio sut y gallai nifer fach o staff yr effeithir arnynt gael eu hadleoli dros dro i gefnogi gwasanaethau iechyd eraill yn yr ardal leol nad yw’r penderfyniad i gau'r ward dros dro wedi effeithio arnynt. 

Mae recriwtio a chadw nyrsys yn broblem eang ar hyn o bryd. Ceir rhagor o wybodaeth mewn erthygl Ymchwil y Senedd a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Mae gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor Deisebau ar 26 Mehefin 2023 yn nodi bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i fynd ar drywydd pob dull posibl i recriwtio i’r swyddi sydd eu hangen i’w alluogi i gynnal gwasanaethau cleifion mewnol yn ddiogel yn ysbytai Tywyn a Dolgellau.

Yn y cyfamser, mae rhai staff wedi cael eu hadleoli dros dro i ardaloedd gwasanaeth eraill sy’n golygu y bu modd datblygu rhai gwasanaethau newydd i gefnogi gofal yn nes at y cartref a chynyddu capasiti’r gwasanaeth yn lleol. Mae staff eraill wedi cefnogi’r cam o ddatblygu gwasanaeth Ystafell Driniaeth yn Ysbyty Tywyn.

Dywedir bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi sicrwydd i’r Gweinidog ei fod yn gweithio gyda’i bartneriaid ar “fodel gwasanaeth arloesol newydd ar gyfer Tywyn, a fydd yn defnyddio staff sy’n gweithio yn y gymuned ar hyn o bryd yn ogystal â staff a fydd wedi eu lleoli yn yr ysbyty, gyda’r nod cyffredin o adfer y gwasanaeth sydd wedi cau dros dro yn yr ysbyty”.

Mae’r Gweinidog yn tynnu sylw at y ffaith bod hwn yn fater gweithredol i’r Bwrdd Iechyd ac yn un na all Gweinidogion Cymru ymyrryd ag ef. Cafodd y Gweinidog gyfarfod gyda chynrychiolwyr o’r Bwrdd Iechyd, Grŵp Gweithredu Ysbyty Tywyn a Chyngor Tref Tywyn ar 12 Mai 2023, lle rhoddwyd cyfle i fynegi unrhyw bryderon a chlywed yn uniongyrchol gan y Bwrdd Iechyd am ei gynlluniau ar gyfer yr ysbyty.

Dywedir hefyd bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi sicrwydd i’r Gweinidog bod gwaith ymgysylltu wedi’i wneud gyda’r Corff Llais y Dinesydd newydd, Llais, a bod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal gyda chynghorwyr lleol lle mae cynnydd o ran recriwtio a datblygu gwasanaethau a chyfleoedd yn cael eu rhannu a’u trafod.

Mae’r Gweinidog yn nodi’r canlynol yn yr ohebiaeth:

Mae’r bwrdd iechyd yn parhau i adolygu’r trefniadau hyn yn rheolaidd, a bydd yn parhau â’i ymdrechion i recriwtio staff i swyddi gwag er mwyn adfer gwasanaethau cleifion mewnol yn Ysbyty Tywyn mewn modd diogel cyn gynted â phosibl. Bydd yr amserlen ar gyfer ailagor y ward cleifion mewnol yn Ysbyty Tywyn hefyd yn parhau i gael ei hadolygu, a bydd yn cael ei diweddaru i adlewyrchu hynt y broses recriwtio.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.